Y Rhifyn Cyfredol

Taliesin Gaeaf 2011: Cyfrol Ben-Blwydd 50


 

Taliesin
Cyfrol 144: Gaeaf 2011
£6.95

Nos Iau ddiwethaf cynhaliwyd cinio llenyddol ym Mhlas Bodegroes i ddathlu bod y cylchgrawn hynod wedi cyrraedd ei hanner cant. Cafwyd tri chwrs bendigedig a sgwrs ddifyr ac ysbrydoledig  gan yr Archdderwydd T. James Jones, ac yng nghanol y cyfan, yn ei holl ogoniant euraidd, yr oedd y gyfrol ben-blwydd.

Os ydych yn tanysgrifio mi ddylai'ch cyfrol chi fod wedi cyrraedd yn saff trwy'r blwch post, ac ambell un â thocyn aur yn swatio rhwng ei dudalenau. Os ydych chi wedi dod o hyd i docyn yna llenwch eich manylion a'i anfon yn ôl atom yn swyddfa Llenyddiaeth Cymru cyn gynted â phosib i ni anfon eich print arbennig o waith Rhys Iorwerth ac Anthony Evans yn y post.

Mae'r gyfrol ben-blwydd nawr ar gael yn eich siop lyfrau leol. Mae'r golygyddion wedi torchi eu llewys i sicrhau fod y gyfrol hon yn un i'w thrysori, felly mynnwch eich copi nawr! Rhwng y cloriau euraidd mae cyfraniadau gan rai o gewri llenyddol Cymru heddiw; Yr Archesgob Rowan Williams, Bobi Jones, Manon Rhys, Christine James, Ned Thomas a llawer llawer mwy. Mae yma gerddi, mae yma adolygiadau, mae yma gyfieithiadau, lluniau, llên meicro a chyfrinachau defodau ysgrifennu llawer o awduron adnabyddus Cymru. Felly os ydych chi am wybod sawl paned sydd yn fater o raid cyn y gall Mihangel Morgan gychwyn ysgrifennu, neu sut sialens yw cyrraedd yr awr fawr yn nhŷ Fflur Dafydd, da chi estynnwch am gopi o rifyn cyfredol Taliesin.