Y Golygyddion
Angharad Elen

Ganwyd Angharad yng Nghaerdydd a magwyd hi yn Llandwrog ger Caernarfon. Ar ôl cwblhau cwrs sylfaen mewn celf a dylunio, aeth ymlaen i Brifysgol Cymru, Caerdydd ble yr astudiodd Gymraeg ac Athroniaeth cyn cwblhau MA mewn Cymraeg ac Ysgrifennu Creadigol. Wedi cyfnod yn gweithio fel Rheolwr Llenyddol Sgript Cymru, mae hi’n ôl yng nghesail Eryri ac yn braslunio cyfresi drama i gwmni teledu Cwmni Da. Bu’n Arholwr Allanol ar fodiwlau sgriptio ar gyfer sgrin a theledu ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth a chyd-feirniadodd y wobr Meyer-Whitworth ar gyfer dramâu newydd i’r Arts Council of England, 2005. Enillodd goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Eisteddfod Caerdydd, 2002. Yn ogystal â sgriptio, cyhoeddodd straeon byrion a llên meicro mewn amryw gyhoeddiadau.
Dywed Angharad: “Braint aruthrol i mi yw cael y cyfle i ymgymryd â’r dasg o gyd-olygu Taliesin. Wedi'r cwbwl, dyma'r cylchgrawn â'm cyflwynodd ac a fu’n ffenest i mi i fyd llenyddiaeth Gymraeg yn ogystal â'm hannog i gyhoeddi gwaith ar ddechrau fy ngyrfa fel awdur. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at gyd-weithio unwaith eto gyda Siân. Rydym ni'n llawn syniadau cyffrous ynglŷn â sut i anadlu bywyd newydd i'r cylchgrawn ac mae'r ddwy ohonom ar bigau i ddechrau o ddifrif ar y gwaith gan gamu’n hyderus gyda Taliesin i lygad y dyfodol.”

