Y Golygyddion
Fis Rhagfyr 2009 cyhoeddwyd enwau golygyddion newydd Taliesin, sef Angharad Elen o Gaernarfon a Sian Melangell Dafydd o'r Bala. Penodwyd Angharad a Sian i’r swydd yn sgîl penderfyniad Manon Rhys a Christine James, i roi’r gorau i’r olygyddiaeth wedi bron i 10 mlynedd wrth y llyw. Rhifyn Taliesin 138: Gaeaf 2009, oedd y rhifyn olaf dan olygyddiaeth Manon a Christine.

