Tanysgrifiwch
Datganiad cynhoeddwyr Taliesin:
Yn dilyn adroddiad calonogol iawn, cyhoeddodd Cyngor Llyfrau Cymru eu bod am barhau i roi cymorth ariannol i Taliesin am y dair mlynedd nesaf. Yn anffodus, mae’r nawdd y mae Taliesin yn ei dderbyn wedi’i gwtogi y tro hwn, ac felly bu’n rhaid i ni wneud rhai newidiadau er mwyn sicrhau dyfodol y cylchgrawn yn y sefyllfa ariannol sydd ohoni. Nid yw pris Taliesin wedi cynyddu ers tro byd, ac felly bu’n rhaid addasu’r prisiau eleni i gyfateb i brisiau’r farchnad gyfredol, gan ystyried bod rhifyn o Taliesin oddeutu 170 o dudalennau. Pris newydd Taliesin yn y siopau o hyn ymlaen fydd £6.95 y rhifyn. Y cyfraddau tanysgrifio newydd yw: £19 y flwyddyn neu £34 am ddwy flynedd.
Cofiwch danysgrifio er mwyn sicrhau copi o Taliesin a’i dderbyn yn syth at garreg eich drws. Gellir tanysgrifio drwy anfon siec i’r Academi.
Mae Taliesin hefyd ar werth mewn siopau llyfrau Cymraeg gydol y flwyddyn.
£19 am flwyddyn (3 rhifyn + cludiant)
£34 am ddwy flynedd (6 rhifyn + cludiant)
£26.25 am flwyddyn (3 rhifyn + cludiant awyr Ewrop)
£48.50 am ddwy flynedd (6 rhifyn + cludiant awyr Ewrop)
£31.25 am flwyddyn (3 rhifyn + cludiant awyr Gweddill y Byd)
£58.50 am ddwy flynedd (6 rhifyn + cludiant awyr Gweddill y Byd)
Anfonwch sieciau neu archebion arian sterling atom:
Academi, Tŷ Mount Stuart, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FQ
Dylid gwneud pob siec yn daladwy i: Yr Academi Gymreig
Cynigir 10% o ostyngiad i danysgrifwyr Taliesin wrth danysgrifio i New Welsh Review. 4 rhifyn am £18 (pris llawn £20) neu 8 rhifyn (tanysgrifiad dwy flynedd) am £34 (pris llawn £38). Am ragor o fanylion cysylltwch â Sue Fisher: 01970 628410 neu ewch i www.newwelshreview.com
Mae croeso i chi gysylltu â ni gydag unrhyw ymholiadau:
taliesin@academi.org

