Cystadleuaeth Ffotograff Taliesin

Cystadleuaeth Ffotograffiaeth Taliesin

  

Llun buddugol Taliesin 142: 'Tywydd' gan Rowena Jane Edwards o Landwrog

Thema: Defod
Y Beriniad: Dewi Glyn

Defodau… mae nhw'n elfennau hanfodol ac anhepgor o'n bywydau. Boed yn seremoniau sy'n nodi digwyddiadau a cherrig milltir pwysig yn ein bywydau (priodas, bedydd, angladd); yn ddefodau crefyddol; yn ddefodau personol (brwsio dannedd, diffodd y swits golau yn y tŷ cyn mynd allan) mae nhw'n fframio ac yn rhoi strwythur i'n bywydau ni i gyd.

Dyma eich cyfle i ennill cystadleuaeth ffotograffiaeth Taliesin drwy gyfrannu llun ar y thema Defod.

Mae gwobr ariannol o £25, ynghyd â'r fraint o gael gweld eich llun rhwng cloriau rhifyn pen-blwydd Taliesin yn 50.

Anfonwch eich lluniau mewn JPEG safon uchel (o leiaf 300 dpi) at angharadelen@yahoo.com neu siandafydd@gmail.com  erbyn Dydd Gwener 16 Medi.

Pob lwc!