Mae Taliesin ar Facebook!

Ydy wir, mae'r bardd o'r 6ed ganrif wedi cyrraedd y unfed ganrif ar hugain. Gallwch ddod o hyd i'r holl wybodaeth ddiweddaraf am Taliesin ar dudalen Facebook Cylchgrawn Taliesin. Gyda'r golygyddion Sian Melangell Dafydd ac Angharad Elen wrth y llyw cewch wybod y cwbl sydd ei angen yma: Pryd fydd y rhifyn nesaf ar y silffordd? Pwy sydd wedi cyfrannu? Ym mhle fydd y lansiad?
A chofiwch bod croeso i chi adael neges. Ydych chi am gyfrannu at y cylchgrawn? Oes ganddoch chi gwestiwn? Dyma'ch cyfle chi i ofyn a holi a dysgu mwy am y cylchgrawn hwn sy'n llawn dop o feirniadaeth lenyddol ddeifiol a threiddgar, erthyglau amrywiol am lenyddiaeth, adolygiadau o gyfrolau diweddar, gweithiau celf a ffotograffiaeth yn ogystal a'r croesair mwyaf cymhleth yn yr iaith Gymraeg…

