Cyhoeddi golygyddion newydd
Cyhoeddi enwau golygyddion newydd Taliesin

Hawlfraint: John Briggs
Cyhoeddwyd enwau golygyddion newydd Taliesin sef yr awdur Angharad Elen o Landwrog, a’r Prif Lenor Siân Melangell Dafydd o’r Bala. Penodwyd Angharad a Siân i’r swydd yn sgîl penderfyniad y golygyddion presennol, Manon Rhys a Christine James, i roi’r gorau i’r olygyddiaeth wedi bron i 10 mlynedd wrth y llyw. Y rhifyn cyfredol, Taliesin 138: Gaeaf 2009, sydd yn y siopau’r wythnos hon, yw’r rhifyn olaf dan olygyddiaeth Manon a Christine.
Cychwynnodd Manon Rhys ar olygyddiaeth Taliesin yn 1999, gan ddilyn Jerry Hunter a Gerwyn Wiliams. Ymunodd Christine James â hi yn 2000. Yn ystod eu golygyddiaeth daeth llwyddiant personol i’r ddwy yn sgîl eu gwaith creadigol. Dyfarnwyd gwobr Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Manon yn 2007, a bu ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn gan ennill Gwobr y Darllenwyr am ei nofel Rara Avis (Gomer, 2005) yn 2006. Enillodd Christine Goron Eisteddfod Eryri a’r Cyffiniau yn 2005.
Mae Angharad Elen a Siân Melangell Dafydd yn enwau cyfarwydd yn y byd llenyddol Cymraeg. Enillodd Siân y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau eleni gyda'i chyfrol Y Trydydd Peth (Gomer, 2009). Yr wythnos hon cyhoeddwyd taw hi enillodd ysgoloriaeth lên ryngwladol Ty Cyfieithu. Mae Angharad yn sgriptwraig ac awdur, sy’n cyfrannu’n rheolaidd i gyhoeddiadau a chylchgronau Cymraeg. Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerdydd 2002.
Dywed Angharad Elen: “Braint aruthrol i mi yw cael y cyfle i ymgymryd â’r dasg o gyd-olygu Taliesin. Wedi'r cwbwl, dyma'r cylchgrawn â'm cyflwynodd ac a fu’n ffenest i mi i fyd llenyddiaeth Gymraeg yn ogystal â'm hannog i gyhoeddi gwaith ar ddechrau fy ngyrfa fel awdur. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at gyd-weithio unwaith eto gyda Siân. Rydym ni'n llawn syniadau cyffrous ynglyn â sut i anadlu bywyd newydd i'r cylchgrawn ac mae'r ddwy ohonom ar bigau i ddechrau o ddifrif ar y gwaith gan gamu’n hyderus gyda Taliesin i lygad y dyfodol.”
Dywed Siân: “Cofiaf y diwrnod pan dderbyniais lythyr gan Manon Rhys yn derbyn stori fer i gael ei chyhoeddi yn Taliesin am y tro cyntaf, a’r wefr o fod a darn o waith rhwng cloriau’r cylchgrawn. Mae’r wefr heddiw, wrth feddwl am y gwaith y gall Angharad a minnau ei wneud yn enw Taliesin, yn arbennig o gyffrous. Rydym yn cymryd yr awenau mewn cyfnod difyr, wrth i Taliesin wynebu ei hanner can mlwyddiant yn 2011. Mae’r ddwy ohonom ar dân i weld ein syniadau’n cael eu gwireddu, ac i fod yn rhan o gymuned ehangach Taliesin.”
Dywed Peter Finch, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Manon a Christine am eu gwaith disglair dros y blynyddoedd, lle mae Taliesin wedi mynd o nerth i nerth. Rydym yn croesawu’r golygyddion newydd ac yn edrych ymlaen at ddegawd llwyddiannus arall i’r cylchgrawn llenyddol gorau yn yr iaith Gymraeg.”

