Taliesin 137 - rhifyn yr haf


Taliesin 137

Mae'r rhifyn diweddaraf ar gael mewn siopau llyfrau, pris £6.95 neu drwy danysgrifiad blwyddyn - £19.00.

Diwylliant Bro Penllyn - rhifyn arbennig i ddathlu bro'r Eisteddfod Genedlaethol gyda chyfraniadau gan Mari Emlyn, Iwan Bryn Williams, E. Wyn James

Delweddau Mewn Lliw - atgynhyrchiadau o waith John Meirion Morris

‘Dos I Ganu’: cefndir caneuon newydd Dafydd Iwan

Gohebiaeth: Ei Mawrhydi Elisabeth O’Windsor (Mrs)

Erthyglau, Cerddi a Rhyddiaith - Myrddin ap Dafydd, Eurig Salisbury, Iwan Llwyd, Mererid Hopwood, Ynyr Williams, Llŷr Lewis, Tony Bianchi, Osian Rhys Jones, ac eraill

Cystadleuaeth Ysgrifennu Monolog (manylion ar y wefan hon)
Cyfle i ennill £200
Beirniad: Cefin Roberts

Ynghyd â’r colofnau rheolaidd, adolygiadau – a’r croesair enwog

am fanylion pellach, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru
029 2047 2266 neu post@llenyddiaethcymru.org

Cyhoeddir Taliesin gyda nawdd Cyngor Llyfrau Cymru.