Pris Newydd Taliesin

Pris Newydd Taliesin

Datganiad cynhoeddwyr Taliesin:

Yn dilyn adroddiad calonogol iawn, cyhoeddodd Cyngor Llyfrau Cymru eu bod am barhau i roi cymorth ariannol i Taliesin am y dair mlynedd nesaf. Yn anffodus, mae’r nawdd y mae Taliesin yn ei dderbyn wedi’i gwtogi y tro hwn, ac felly bu’n rhaid i ni wneud rhai newidiadau er mwyn sicrhau dyfodol y cylchgrawn yn y sefyllfa ariannol sydd ohoni. Nid yw pris Taliesin wedi cynyddu ers tro byd, ac felly bu’n rhaid addasu’r prisiau eleni i gyfateb i brisiau’r farchnad gyfredol, gan ystyried bod rhifyn o Taliesin oddeutu 170 o dudalennau. Pris newydd Taliesin yn y siopau o hyn ymlaen fydd £6.95 y rhifyn. Y cyfraddau tanysgrifio newydd yw: £19 y flwyddyn neu £34 am ddwy flynedd.



Am fwy o wybodaeth ynglŷn â thanysgrifio i Taliesin, cliciwch yma

Related Files
File nameFile size
PDF (Adobe Portable Document Format) File/default/tanysgrifiad_taliesin.pdf154.60KB