Parti Taliesin
A Wedi'r Dathlu Tawelwch Fu…

Craflun Anthony Evans sy'n cynnwys englyn y Prifardd Rhys Iorwerth
Mae pen-blwydd yr hen Daliesin wedi dod a digon o godi gwydryn i ddathlu yn ei sgîl! Bu'r mis diwethaf yn fwrlwm o ddigwyddiadau, anrhegion a perfformiadau i nodi bod y cylchgrawn llenyddol Taliesin bellach yn hanner can mlwydd oed.
Daeth y dathliadau i grescendo nos Fercher ddiwethaf gyda gig lenyddol yn y Bunkhouse yng Nghaerdydd. Os na lwyddoch chi i gyrraedd i weld Anni Llŷn, Gwilym Dwyfor, Llŷr Gwyn Lewis, Osian Rhys Jones, Aneirin Karadog, Catrin Dafydd a Rhys Iorwerth (aaaanadl ddofn) - na phoener! Gallwch weld lluniau o'r noson yma ar dudalen Flickr Llenyddiaeth Cymru, a chlipiau o'r perfformiadau yma ar dudalen YouTube Llenyddiaeth Cymru. Yn ogystal cawsom ein difetha'n llwyr gyda perfformiad acwstig gan neb llai na Richard James a set wefreiddiol o fywiog gan Y Niwl i goroni'r cyfan.
Mae'r gyfrol ben-blwydd euraidd ar y silffoedd nawr ac mae hi'n glamp o gyfrol. Gyda nifer o gyfraniadau gan gyn-olygyddion megis Manon Rhys, Christine James a Gerwyn Wiliams, straeon byrion newydd gan Mihangel Morgan a Caryl Lewis, a cherdd gan yr Archesgob Rowan Williams, wedi ei chyfieithu gan Alan Llwyd. Dewch o hyd i gopi yn eich siop lyfrau leol.
I ddiolch i danysgrifwyr ffyddlon Taliesin comisiynwyd yr artist adnabyddus Anthony Evans i greu y craflun arbennig uchod sy'n ymgorffori englyn a ysgrifennwyd ar gyfer yr achlysur gan y Prifardd newydd Rhys Iorwerth. Bydd pum deg o danysgrifwyr lwcus yn derbyn print o'r gwaith celf unigryw a gwerthfawr hwn yn y post yn fuan iawn.
A pheidiwch ac anghofio bod dathlu di-ri wedi bod yn y gogledd hefyd. Cynhaliwyd cinio llenyddol bendigedig ym Mhlas Bodegroes ddiwedd Tachwedd, gyda'r Hybarch Archdderwydd T. James Jones yn rhoi sgwrs ar Iolo Morganwg. Cliciwch yma i weld lluniau'r noson honno.
Diolch yn fawr i chi gyd am ymuno yn y dathlu a gobeithio y bydd y nifer ohonoch sydd wedi tanysgrifio o'r newydd yn ystod y mis hwn yn mwynhau y rhifynau o Taliesin sydd eto i lanio ar eich stepen ddrws.

