Lansio Taliesin 143 ar Faes yr Eisteddfod
Lansio Taliesin 143, Rhifyn yr Haf, ar Faes yr Eisteddfod

Cafwyd lansiad amrywiol a hynod ddiddorol ar gyfer rhifyn yr haf o Taliesin yn yr Eisteddfod eleni. Cyhaliwyd y lansiad ym mhabell Prifysgol Aberystwyth gyda diod ysgawen pefriog i bawb a lle i eistedd a dianc o fwrlwm y maes am ychydig.
Yn dilyn croeso cynnes a chyflwyniad gan y golygyddion, Sian Melangell Dafydd ac Angharad Elen, daeth Aneirin Karadog i’r llwyfan i ddarllen rhai o’i gerddi o’r casgliad ‘copaon’ sydd yn adrodd ei hanes yntau a chriw o ffrindiau yn dringo’r chwe copa Celtaidd. Yna bu trafodaeth rhwng Ned Thomas a Guto Dafydd dan arweiniad Sioned Puw Rowlands, am y syniad o daith mewn a thrwy lenyddiaeth, y daith yng ngwaith Iwan Llwyd a’r daith sydd yn rhan annatod o Bydoedd, cofiant cyfnod Ned Thomas a gipiodd wobr Llyfr y Flwyddyn 2011.
Dwy actores ifanc ddaeth i’r llwyfan wedyn, Gwawr Loader a Fflur Medi Owen fu’n perfformio detholiad o ‘Ex Luna’, cyfraniad y bardd Damian Walford Davies i’r gyfrol, sy’n myfyrio ar daith dyn i’r lleuad. Yn dilyn hyn daeth Aled Islwyn i’r llwyfan i ddarllen ei stori fer ‘Y Twll’, a ysgrifennodd mewn ymateb i waith Islwyn Ffowc Elis yn adran Dwy Law rhifyn 143 o Taliesin.
Ac i gloi chwaraeodd Iwan Huws o’r grwp Cowbois Rhos Botwnnog set o ganeuon acwstic ar y thema ‘Y Daith’.
Cliciwch yma i weld lluniau o'r lansiad ar dudalen Flickr Llenyddiaeth Cymru

