Tanysgrifiad i Taliesin

Darllen Difyr drwy'r Flwyddyn

                            

Ydych chi’n chwilio am anrheg llenyddol? Beth am brynu tanysgrifiad i Taliesin yn anrheg annisgwyl a fydd yn difyrru trwy'r flwyddyn? Dyma gylchgrawn llenyddol mwyaf cyffrous Cymru, ar ei newydd wedd gyda chyfaniadau gan awduron mwyaf blaenllaw Cymru. Gallwn anfon Taliesin yn uniongyrchol ar eich rhan erbyn y Nadolig hefyd, a hwnnw wedi ei lapio mewn papur bendigedig - does dim rhaid i chi godi bys! Mae’r rhifyn diweddaraf (Haf 2011) ar gael nawr mewn siopau llyfrau yng Nghymru.

Pris tanysgrifiad blwyddyn yw £19.00 (3 rhifyn) , neu £34.00 (6 rhifyn) am ddwy flynedd
yn cynnwys pacio a chludiant post.

Cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru am ffurflen danysgrifio, neu ffoniwch er mwyn talu â cherdyn:
029 2047 2266 / post@llenyddiaethcymru.org