Llyfrgell Taliesin

LUNED EMYR

cynnau

Y merched fydd yn hel a thanio heno. Mae’r hogiau’n trio eu gorau glas yn y modd mwyaf gwrywaidd i annog y fflamau bach i dyfu’n fflamau mawr, ond – a bod yn gwbl onest – does ganddyn nhw mo’r syniad lleia be maen nhw’n ei wneud.

Felly mae’r genod yn llowcio eu diodydd cynnes, yn torchi eu llewys (yn y modd trosiadol), yn penlinio gan ffurfio siâp triongl a dechrau ar y gwaith drwy baratoi ffrâm cadarn â cherrig a phren. Chwerthin mae’r hogiau, fel petaen nhw’n gwylio sesiwn stand-up safonol, ond nid yw eu sgeptigiaeth yn amharu’r un dim ar y tair. Mewn byr o dro, mae’r fflamau ar eu traed, yn batrymau nwyfus fel dawns orchfygol ar set ffilm Bollywood.

Heb rannu hyn â’r genod, mae’r hogiau’n storio’r cyfan yn dawel bach wrth iddyn nhw arsylwi ar y tair yn consurio’u creadigaeth gyntefig. Oherwydd maen nhw’n gwybod gystal â neb y daw eu tro hwythau yn y man i hel y coed a chynnau’r tân.

Cynnau gan Luned Emyr

Taliesin 129