Llyfrgell Taliesin

Gair a Llun

Saith Ffaith am Ddringo Pont

Holltau a chilfachau:
dyma fydd dy ffrindiau,
yr unig ffordd i esgyn
yr esgyrn dyrys hyn.

Wrth ddringo bydd dy fysedd
yn cydio mewn tafell o awyr
sy'n ddigon cryf i gynnal pwysau dyn.

Bod yn y rhigolau o bren ysgyrion
a hefyd friwsion o bridd

a bod gwreiddiau oer yn tyfu ynddynt,
rhywbeth i ti ei ddal
am eiliad wrth i ti anelu
at fola'r bargod.

Y byddi, wrth i ti grogi
mewn gwagle rhwng neithiwr a nawr,
yn clywed y bont yn ymestyn ei chyhyrau,
sŵn llais rhywun yn rhegi yn y pellter

ac am funud fe fyddi'n gwybod
bod y cyfan ar ben,
mai'r unig beth i'w wneud
yw llacio dy afael;

ac y bydd y bont (neu ryw bont arall)
yn disgwyl amdanat o hyd, o hyd,
nes i ti gyrraedd mêr dy daith.
 

Ar Hyd y Llinell / Saith Ffaith am Ddringo Pont

Darryl Lonsbrough / Elin ap Hywel 

Cyfrol ddiweddaraf Elin ap Hywel fel golygydd yw Merch Perygl, detholiad o waith Menna Elfyn dros gyfnod o 35 mlynedd. Ar hyn o bryd mae'n cydweithio â'r cerddor, Peter Pavli, ar ffilm fer o'i cherdd 'Plu', a gyda'r arlunydd Stuart Evans a'r artist sain Anna Evans ar arddangosfa ar y thema 'Creaduriaid' dan guraduraeth Moira Vincentelli. Cynhelir yr arddangosfa yn yr Oriel Gerameg, Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, yn ystod yr hydref.