Gair a Llun
Delweddu’r Dweud
Er mai cylchgrawn llenyddol yw Taliesin yn ei hanfod, ceir ynddo hefyd gysylltiad clòs â’r celfyddydau gweledol. Mae nifer o artistiaid gorau Cymru wedi harddu’r cloriau ar hyd y blynyddoedd (gweler isod), ac fe geir ymatebion beirdd preswyl, cynllun â noddir gan yr Academi, i weithiau celf a crefft yr Eisteddfod bob blwyddyn. Cyhoeddir detholiad o’r gwaith hwn yn rhifynnau gaeaf Taliesin. Yn ogystal, trefnir lansiadau difyr o’r cylchgrawn bob haf yn y Lle Celf.

Y Golygyddion yn lansio Taliesin 125 yn y Lle Celf
Nodwedd newydd o fewn y cylchgrawn yw’r adran liw. Ceir ynddi gyfuniad diddorol o’r gair a’r llun, megis ymatebion awduron i ffotograffau dan y teitl Cadernid Gwynedd? (Taliesin 125). Ceir hefyd ymatebion amryw awduron i luniau o’r trychineb y Tsunami (Taliesin 124); lluniau a dynnwyd o hofrennydd yn hedfan dros Gymru (Taliesin 118) ac ymatebion i luniau o’r rhyfel yn Iràc (Taliesin 119).
![]() |
Clawr Taliesin 126 gyda gwaith yr artist Pamela Rawnsley, a arddangoswyd yn y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau 2005. Cyhoeddwyd cerddi gan fardd preswyl yr arddangosfa, Karen Owen, yn y rhifyn hwn. |
![]() |
Clawr Taliesin 125 yn dangos gwaith yr artist Catrin Williams, sef eisteddfod y cychod, a grëwyd yn arbennig ar gyfer arddangosfa yn Galeri, Caernarfon, i gyd-fynd ag Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau 2005. |
![]() |
Clawr Taliesin 122 yn dangos gwaith gan yr artist Iwan Bala, sef Chwedl (olew ar gynfas, 51 x 61 cm, 2000). Yn y rhifyn hwn, ceir enghreifftiau lliw o weithiau’r artist, ynghŷd ag erthygl ganddo ar y cysylltiad sydd rhwng ei waith â llên. |
![]() |
Clawr Taliesin 120 yn dangos darn o waith yr artist Carwyn Evans, Unlliw. Enillydd gwobr Ifor Davies yn Eisteddfod Maldwyn a’r Gororau 2003 am ddarn o waith sy’n cyfleu ysbryd y frwydr dros iaith, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru. |
![]() |
Clawr Taliesin 117 gyda gwaith yr artist Ifor Davies, enillydd Medal Aur Celf a Chrefft Eisteddfod Tyddewi 2002. Ysgrifen ar y Mur I: dinistr iaith a chymuned, XII 2001. Beibl aelwyd, dryll tad-cu 1840-50 a phethau eraill wedi eu hollti ar sachlen. |
![]() |
Clawr Taliesin 116 gyda darn o waith yr arlunydd a’r bardd o Sir Benfro, Wyn Owens, Chware Twrch |
![]() |
Clawr Taliesin 112 gydag enghreifftiau o waith gosod yr artist Mary Lloyd Jones yn ei harddangosfa Lliwio’r Gair / The Colour of Saying a gynhaliwyd yn Oriel Gelf Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. |
![]() |
Clawr Taliesin 104 gyda Bwystfilod Bont gan Catrin Howell, enillydd y Fedal Aur am Grefft a Dylunio, Eisteddfod Bro Ogwr 1998. |









