Cyflwyniad & Hanes

Hanes Taliesin

 

Ganed yr Academi Gymreig yn sgil sgyrsiau rhwng Bobi Jones ac Waldo Williams yn 1959. Un o'r pethau mwyaf arwyddocaol a gyflawnwyd gan y gymdeithas yn ei blynyddoedd cynnar oedd sefydlu Taliesin; cylchgrawn llenyddol safonol i Gymru. Ymddangosodd y rhifyn cyntaf yn 1961 o dan olygyddiaeth Gwenallt, a cheir cyfraniadau gan amryw o fawrion byd llenyddol Cymru, gan gynnwys stori fer gan Kate Roberts, darn hunan-gofiannol gan D. J. Williams, nodiadau dyddiadurol gan T. H. Parry-Williams ac erthygl ar y nofel gan Islwyn Ffowc Elis

 

Clawr Taliesin 1


Taliesin
Heddiw

 

Bu Taliesin yn llwyfan i awduron Cymru ers dros 30 mlynedd, ac mae'r cylchgrawn wedi mynd o nerth i nerth dan olygyddiaeth nifer o enwau cydnabyddedig ym maes llenyddiaeth Gymraeg. Diwygiwyd fformat y cylchgrawn yn ddiweddar, ac mae’r apêl i awduron, ysgolheigion a lleyg-ddarllenwyr fel ei gilydd yn parhau dan olygyddiaeth Angharad Elen a Siân Melangell Dafydd. Llwydda’r cynnwys amrywiol i greu cydbwysedd rhwng bod yn llwyfan i ysgrifennu newydd, beirniadaeth lenyddol gyfoes, ysgrifau ar hanes llenyddiaeth ac ystod eang o adolygiadau, adargraffiadau o weithiau celf cyfoes – heb anghofio, wrth gwrs, am y croesair mwyaf cymhleth yn yr iaith Gymraeg…